#

Y Pwyllgor Deisebau | 07 Mai 2018
 Petitions Committee | 07 May 2018
 
 
 ,Capio Cyfraddau Treth Gyngor yng Nghymru
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-875

Teitl y ddeiseb: Capio Cyfraddau Treth Gyngor yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Mae Cyngor Conwy yn ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yn y flwyddyn i ddod. Mae cynghorau eraill yng Nghymru hefyd yn cyflwyno codiadau treth gyngor y tu hwnt i gyfradd chwyddiant.

Galwaf ar i'r Cynulliad gapio codiadau yn y dreth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd. Wrth i gyfraddau dlodi plant a dyledion cartrefi gynyddu, bydd y codiadau aruthrol yn y dreth gyngor yn cael effaith andwyol ar gartrefi.

Gwybodaeth ychwanegol

​Mae Cyngor Conwy wedi codi'r dreth gyngor 5 y cant o'r naill flwyddyn i'r llall, ond eleni mae'n ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant.

Mae gormod o gartrefi incwm isel eisoes mewn trafferthion; byddai codiad gwarthus o'r fath yn ergyd drom.

Rydym yn talu MWY ac yn cael LLAI a LLAI o ran gwasanaethau.

Yr un yw'r stori ledled Cymru.

Byddai capio codiadau treth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd yng Nghymru yn fodd i deuluoedd dan bwysau gael eu gwynt atynt.

 


 

1.  Y cefndir

Llywodraeth Cymru sy’n darparu'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a hynny drwy'r Grant Cynnal Refeniw (RSG) a’r Ardrethi Annomestig wedi’u Hailddosbarthu (NDR). Gall awdurdodau lleol hefyd wneud cais am grantiau penodol eraill. 

Yr awdurdodau lleol eu hunain sy’n codi gweddill y cyllid ar gyfer eu gwasanaethau. Yr elfen fwyaf arwyddocaol o'r cyllid hwn yw’r dreth gyngor. Mae nifer o ddulliau eraill o gynhyrchu incwm hefyd, fel taliadau dewisol am wasanaethau hamdden, parcio a gwastraff masnachol.    

Mae rhagor o fanylion am gyllid awdurdodau lleol ar gael yn erthygl Ymchwil y Senedd, Pigion, ac ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

2.  Bandiau’r dreth gyngor a phrisio eiddo yng Nghymru

Treth ar eiddo domestig yw’r dreth cyngor ac mae’n seiliedig ar system o fandiau prisio sy'n gysylltiedig â gwerthoedd cyfalaf. Fe'i cyflwynwyd ym 1993 wedi i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ddod i rym. Roedd hon yn dileu'r system flaenorol o daliadau cymunedol, a gyflwynwyd i ddisodli ardrethi domestig. 

Rhaid i eiddo gydymffurfio â'r diffiniad statudol o annedd sydd wedi’i gynnwys yn Adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (Deddf Cyllid 1992) cyn y bydd yn ddarostyngedig i’r dreth gyngor arno. Mae anheddau yng Nghymru yn cael eu rhoi mewn un o naw band (wyth yn Lloegr), o A i I. Mae'r siart isod yn dangos y dreth gyngor sydd i'w thalu am eiddo ym mhob Band.

Tabl 1: Bandiau Treth Gyngor yng Nghymru   

Llun yn cynnwys sgrin lun, testun  Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig

GOV.UK

3.        Cynnydd yn y dreth gyngor

Bydd y dreth gyngor yn codi 6.2 y cant (neu £77) ar gyfartaledd yn 2019-20. Bydd praesept yr heddlu'n codi 9.1 y cant (neu £22) ar gyfartaledd. O’u cyfuno, bydd y rhain yn arwain at gynnydd o 6.6 y cant (neu £99) ar gyfartaledd ar gyfer eiddo ym mand D.

O’i gymharu â hyn, yn 2018-19, cynyddodd y dreth gyngor 5 y cant (neu £60) ar gyfer eiddo Band D. Cynyddodd praeseptau’r heddlu 5.3 y cant (£12) felly, gyda’i gilydd, 5.1 y cant (neu £72) oedd y cynnydd ym mand D ar gyfartaledd. 

Yn ôl data StatsCymru, yng Nghyngor Sir Penfro y bydd y dreth gyngor yn cynyddu fwyaf yn 2019-20, sef cynnydd disgwyliedig o 9.92 y cant. Disgwylir cynnydd o 9.6 y cant yn y dreth gyngor yng Nghonwy.  Mae erthygl gan BBC Wales  (fel ar 24 Ebrill 2019) yn dangos y cynnydd canrannol yn y dreth gyngor ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru yn 2019-20:

Ffigur 1: Cynnydd yn y Dreth Gyngor yn 2019-2020

Ym mis Hydref 2018, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen a llefarydd Cyllid CLlLC, wrth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

No-one wants to put council tax up, especially in an era where services are being cut back, because it inevitably leads to the accusation that people are paying more for less but, unfortunately, that's the inevitable reality of austerity.

 

4.        Terfynau'r dreth gyngor a'r fframwaith deddfwriaethol

Er nad oes terfyn swyddogol ar faint y gall awdurdod lleol godi ei dreth gyngor, y gred oedd bod Gweinidogion Cymru wedi gosod terfyn anffurfiol o 5%. Mae’n bosibl bod y gred hon yn seiliedig ar ddatganiad yn 2007 gan Sue Essex AC, y Gweinidog Cyllid ar y pryd,  a ddywedodd:

Yr wyf wedi dweud wrth yr awdurdodau unedol ac awdurdodau’r heddlu fy mod wedi disgwyl iddynt bennu cyllidebau a fyddai’n golygu cynnydd yn y dreth gyngor o ddim mwy na 5 y cant am y flwyddyn ariannol nesaf.

Fodd bynnag, yn ei hymateb i'r ddeiseb, dywedodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol,  nad yw Llywodraeth Cymru wedi pennu trothwyon ar gyfer codi’r dreth gyngor.

Er nad oes unrhyw drothwyon wedi’u pennu ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru y gallu i gyfyngu ar gynnydd gormodol yng Ngofyniad Cyllideb awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

 

4.1      Y fframwaith deddfwriaethol

Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf Cyllid 1992”).  

Mae adran 52B o Ddeddf Cyllid 1992 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gymryd camau yn erbyn awdurdod lleol os ydynt o'r farn bod y gofyniad cyllideb a bennwyd gan yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn arfaethedig yn 'ormodol'.

“Gofyniad cyllideb” yw'r swm sy'n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng gwariant disgwyliedig yr awdurdod lleol (hy yr hyn y bydd angen ei wario i gyflawni ei swyddogaethau, arian grant y bydd yn rhaid ei ad-dalu i Weinidogion Cymru, arian i’w ddyrannu i gronfeydd wrth gefn) a’i incwm disgwyliedig (hy yr arian y mae'r awdurdod yn disgwyl ei gael y flwyddyn honno, yn amodol ar rai eithriadau).

§    Mae adran 52B yn darparu bod yn rhaid iddynt gynhyrchu set o egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu a yw'r gofyniad cyllideb yn ormodol. Mae adran 52B yn darparu bod yn rhaid i'r egwyddorion hyn (o leiaf) gynnwys cymhariaeth rhwng gofyniad cyllideb y flwyddyn dan sylw a’r gofyniad ar gyfer blwyddyn gynharach.

§    Mae adran 52C yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n pennu “swm tybiannol” ar gyfer cyllideb awdurdod lleol, i'w ddefnyddio fel sail i gymharu’r flwyddyn dan sylw ac unrhyw flwyddyn flaenorol. Gall Gweinidogion Cymru bennu symiau tybiannol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft os yw swyddogaeth neu ffin wedi newid – a, thrwy hynny, gellir gwneud cymhariaeth ddilys rhwng gofyniad cyllideb y flwyddyn dan sylw. Gellir ei ddefnyddio hefyd i bennu swm tybiannol os nad oedd gofyniad cyllideb wedi'i bennu ar gyfer blwyddyn gynharach.

Yn dilyn penderfyniad a wnaed drwy ddefnyddio'r egwyddorion sy'n ofynnol o dan adran 52B, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y swm a bennir gan awdurdod fel gofyniad cyllideb ar gyfer y flwyddyn yn ormodol, mae adran 52D yn galluogi Gweinidogion Cymru i “ddynodi” neu “enwebu’r” awdurdod lleol hwnnw.

Awdurdodau lleol dynodedig

§    O dan adran 52E, os caiff awdurdod lleol ei ddynodi, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod o’r uchafswm y maent yn cynnig y dylai ei gyfrifo fel gofyniad cyllideb ar gyfer y flwyddyn, a phennu'r uchafswm y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig y gallai'r awdurdod ei gyfrifo fel ei ofyniad cyllideb ar gyfer y flwyddyn heb i’r swm hwnnw fod yn ormodol.  

§    Yna gall yr awdurdod lleol naill ai:

o   dderbyn yr uchafswm dynodedig a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru; neu

o   herio penderfyniad Gweinidogion Cymru.

§    Os na fydd yr awdurdod lleol yn llwyddo i herio'r uchafswm, gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn gorfodol i'r awdurdod lleol i sicrhau bod yr awdurdod yn cydymffurfio.

Awdurdodau lleol enwebedig

§    O dan adran 52L, yn achos awdurdod lleol enwebedig, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod o'r swm y byddent wedi’i gynnig fel targed ar gyfer gofyniad cyllideb y flwyddyn dan sylw pe bai’r awdurdod yn awdurdod dynodedig.

Yn achos awdurdodau lleol enwebedig, gall Gweinidogion Cymru benderfynu:

(a)  dynodi’rawdurdod (yn dilyn y weithdrefn yn adran 52E a amlinellir uchod); neu

(b)  benderfynu ar y swm y maent yn cynnig y dylai’r awdurdod ei gyfrifo’n swm tybiannol yng nghyd-destun ei ofyniad cyllideb ar gyfer y flwyddyn.

§    Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i awdurdod lleol eu bod wedi cynnig swm arfaethedig,  mae gan yr awdurdod 21 diwrnod i naill ai:

o   dderbyn y swm a gynigiwyd gan Weinidogion Cymru; neu

o   herio'r swm a gynigiwyd a gofyn i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad.

§    Os caiff y swm a gynigir ei herio gan yr awdurdod lleol a bod y rhesymau a roddwyd dros yr her yn cael eu derbyn, gall Gweinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad.

 

4.2      Dehongli'r ddeddfwriaeth

Er nad yw'r darpariaethau ym Mhennod IVA o Ddeddf Cyllid 1992 yn sôn yn benodol am y dreth gyngor, teitl y bennod sy’n ymdrin â nhw yw “Limitations of Council Tax and Precepets”. Mae papur briffio Tŷ'r Cyffredin ar gapio’r dreth cyngor a gyhoeddwyd yn 2004 (Pennod III yn benodol) yn rhoi rhywfaint o gefndir ynghylch pam mae'r adran hon o’r ddeddfwriaeth yn rhoi'r pŵer i Weinidogion gapio'r dreth gyngor.  

Mae Gweinidogion Cymru wedi amlinellu’n flaenorol sut y gallent fod yn barod i ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor os ystyrir bod y cynnydd yn ormodol. Er enghraifft, yn ei datganiad ar Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2014-15 (16 Hydref 2013), dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd (Lesley Griffiths AC):

Wrth alluogi’r Awdurdodau Lleol i benderfynu lefel y dreth gyngor yn lleol, rwy’n cynnig hyblygrwydd iddynt reoli eu cyllidebau. Nid yw’r awdurdodau cyfatebol yn Lloegr sy’n destun cyfyngiadau yn sgil rhewi’r dreth gyngor yn mwynhau’r un hyblygrwydd. Fodd bynnag, rwyf wedi datgan yn hollol glir fy mod yn fodlon defnyddio’r pwerau capio sydd ar gael imi os ceir cynnydd gormodol.

Cafwyd datganiad tebyg yn 2015 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a hynny yn ei lythyr yn cyd-fynd â Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2015-16:

Rwy'n barod i ddefnyddio'r pwerau capio sydd ar gael i mi pe bawn yn ystyried bod unrhyw gynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn ormodol. Rwyf hefyd yn disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael wrth ystyried darparu gwasanaethau ac wrth bennu ei gyllideb a’i Dreth Gyngor.

Fodd bynnag, ers 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi newid eu cân ac, wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet blaenorol dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Mater i bob awdurdod unigol yw pennu treth gyngor. Wrth bennu lefelau treth gyngor, rwy’n disgwyl i awdurdodau sicrhau eu bod yn gallu cynnal gwasanaethau lleol a chydbwyso hyn â sefyllfa ariannol teuluoedd sydd dan bwysau.   

Yn ei hymateb i'r ddeiseb hon, adleisiodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y safbwynt uchod, gan nodi:

Mae pob awdurdod lleol yn wynebu penderfyniadau anodd ynglŷn â darparu'r gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt. Mae’r dreth gyngor yn ffynhonnell ariannu arwyddocaol yng nghyd-destun gwasanaethau lleol ac mae'n bwysig bod gan awdurdodau lleol y rhyddid i osod eu treth gyngor eu hunain; maent yn awdurdodau statudol annibynnol sy'n gyfrifol am reoli eu materion ariannol eu hunain.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.